Who are we? Pwy Ydyn Ni?

 

Lampeter Evangelical Church was founded in 1981 and meets for worship every Sunday in Victoria Hall, Bryn Road. Its members come from a variety of different backgrounds, the uniting factor being that they have all become Christians through personal faith in the Lord Jesus Christ as their Saviour and are committed to serving him as their Lord. The church is fairly unique, in that it holds services in both Welsh and English languages, the former being translated into English for the benefit of those who do not speak Welsh. It also meets regularly for other activities, such as meetings for Bible study and prayer, a ladies’ group, youth club, Welsh classes for beginners and an international student’s meeting. These activities usually take place in Yr Hedyn Mwstard (The Mustard Seed) in College Street.

Why “evangelical”? Basically, we believe the Bible to be the Word of God. In other words, through it God has revealed what we should believe and how we should live. Also, we believe that God sent His Son into the world to save people like us from the consequences of our sin. In order to accomplish this, the Lord Jesus was punished by His Father on the cross, in our place. God can therefore forgive our sins, because our debt has been paid. Evangelicals not only believe this, but are committed to making this message known.

Sefydlwyd Eglwys Efengylaidd Llanbed yn 1981 ac mae’n cyfarfod bob Sul i addoli yn Neuadd Fictoria, Heol y Bryn. Daw ei haelodau o nifer o wahanol gefndiroedd, a’r ffactor sy’n eu cysylltu’n un yw eu bod wedi dod yn Gristnogion drwy ffydd bersonol yn yr Arglwydd Iesu Grist fel eu Gwaredwr a’u bod wedi ymrwymo i’w wasanaethu ef fel eu Harglwydd. Mae’r eglwys yn unigryw braidd, gan ei bod yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg, y gyntaf yn cael ei chyfieithu i’r Saesneg ar gyfer y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd i gynnal gweithgareddau eraill, megis cyfarfodydd i astudio’r Beibl a gweddio, cyfarfodydd y chwiorydd, clwb ieuenctid, gwersi dysgu Cymraeg i ddechreuwyr a chyfarfod i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd fel arfer yn Yr Hedyn Mwstard yn Stryd y Coleg.

Pam ‘efengylaidd’? Yn sylfaenol, credwn mai’r Beibl yw Gair Duw. Mewn geiriau eraill, drwyddo y mae Duw wedi datgelu beth ddylem gredu a sut y dylem fyw. Hefyd, credwn fod Duw wedi danfon Ei Fab i’r byd i achub pobl fel ni rhag canlyniadau ein pechod. Er mwyn cyflawni hyn, cosbwyd yr Arglwydd Iesu gan Ei Dad ar y groes, yn ein lle. Gall Duw felly faddau ein pechodau, oherwydd mae ein dyled wedi ei thalu. Nid yn unig y mae efengylwyr yn credu hyn ond maen nhw wedi ymrwymo i wneud y neges hon yn hysbys hefyd.

 
 

What do we believe? Beth Ydyn Ni’n Ei Gredu?

 
  1. The Scriptures of the Old and New Testaments are the Word of God, being inspired, infallible and inerrant as originally given and are the sole authority in all matters of faith and practice, for what they teach is God’s will for His Church. We believe all that is taught therein.

  2. We believe in the only true and living God, the Holy Trinity of Divine Persons in perfect unity; Father, Son and Holy Spirit, each of whom is co-equal, co-eternal and sovereign in creation, providence and redemption.

  3. We believe in the God and Father of our Lord Jesus Christ, who is holy, righteous, full of grace, mercy, compassion and love. In His infinite love He sent forth the Son, that the world through Him might be saved.

  4. We believe in the Lord Jesus Christ, the incarnate Son of God, whose true humanity and full deity were mysteriously and really joined in the unity of His Divine Person. We believe in His virgin birth, in His perfect life and teaching, in His substitutionary, atoning death on the cross, where He triumphed over Satan, sin and death, in His bodily resurrection and ascension into heaven, where He now sits in glory at the right hand of God, ever living to make intercession for us.

  5. We believe in the Holy Sprit, the third Person of the Godhead, whose work is indispensable to regenerate the sinner, lead him to repentance, give him faith in Christ, sanctify him in this present life and prepare him to enjoy fellowship with God for ever. For spiritual power and effectiveness in worship, witness and work for Christ, His ministry is essential to the individual Christian and the Church.

  6. We believe that as a result of the Fall, all men are sinful by nature. Sin pollutes and controls them, infects every part of their being, renders them guilty in the sight of a holy God, and subject to the penalty which, in His wrath and condemnation, He has decreed against it.

  7. We believe that through faith, and only faith, in the Lord Jesus Christ, whose death was a perfect oblation and satisfaction for our sins, the sinner is freely justified by God, who, instead of reckoning to us our sins, reckons Christ’s righteousness to our account. Salvation is therefore by grace and not by human merit.

  8. We believe that the Lord Jesus Christ will return personally, visibly and gloriously to this earth, to receive His saints to Himself and to be seen of all men. As the righteous Judge, He will divide all men into two, and only two, categories – the saved and the lost. Those whose faith is in Christ will be saved eternally, and will enter into the joy of their Lord, sharing with Him His inheritance in Heaven. The unbelieving will be condemned by Him to Hell, where they will be eternally punished for their sins under the righteous judgement of God.

  1. Gair Duw yw Ysgrythurau’r Hen Destament a’r Testament Newydd, wedi eu hysbrydoli, yn anffaeledig ac yn ddigfyfeiliorn fel y‘u rhoddwyd yn wreiddiol a hwy yw’r unig awdurdod yn holl faterion ffydd ac ymarfer, oherwydd yr hyn a ddysgant yw ewyllys Duw ar gyfer Ei Eglwys. Credwn y cyfan a ddysgir o’u mewn.

  2. Credwn yn yr unig wir a bywiol Dduw, Trindod Sanctaidd y Personau Dwyfol mewn undod perffaith; Tad, Mab ac Ysbryd Glân, pob un ohonynt yn ogyfuwch, yn gyd-dragwyddol ac yn sofran yn y creu, mewn rhagluniaeth ac iachawdwriaeth.

  3. Credwn yn Nuw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, sy’n sanctaidd, cyfiawn, yn llawn gras, trugaredd, trugarowgrwydd a chariad. Yn ei gariad anfeidrol anfonodd y Mab, fel yr achubid y byd drwyddo Ef.

  4. Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab ymgnawdoledig Duw, yr oedd ei wir ddyndod a’i ddwyfoldeb llawn wedi eu huno’n ddirgel ac yn wirioneddol yn undod Ei Berson Dwyfol. Credwn yn Ei enedigaeth o forwyn, yn Ei fywyd a’i ddysgeidiaeth berffaith, yn ei farwolaeth ddirprwyol ac iawnol ar y groes, lle y bu’n fuddugol dros Satan, pechod a marwolaeth, yn Ei atgyfodiad corfforol a’i ddyrchafael i’r nefoedd, lle yr eistedd yn awr mewn gogoniant ar ddeheulaw’r Tad, yn bythol fyw i eiriol trosom.

  5. Credwn yn yr Ysbryd Glân, trydydd Person y Duwdod, y mae ei waith yn anhepgorol i aileni’r pechadur, ei arwain i edifeirwch, rhoi iddo ffydd yng Nghrist, ei sancteiddio yn y bywyd presennol a’i baratoi ar gyfer mwynhau cymdeithas â Duw yn oes oesoedd. Mae Ei weinidogaeth yn angenrheidiol i’r Cristion unigol a’r Eglwys o ran gallu ac effeithiolrwydd ysbrydol mewn addoliad, tystiolaeth a gwaith dros Grist.

  6. Credwn, fel canlyniad i’r Cwymp, fod pob dyn yn bechadurus o ran natur. Mae pechod yn eu llygru a’u rheoli, yn heintio pob rhan o’u bod, yn eu gwneud yn euog yng ngolwg Duw sanctaidd, ac yn wrthrychau i’r gosb y mae Ef, yn ei ddigofaint a’i gondemniad, wedi deddfu yn eu herbyn.

  7. Credwn, drwy ffydd, a ffydd yn unig, yn yr Arglwydd Iesu Grist, y bu ei farwolaeth yn offrwm a boddhad perffaith dros ein pechodau, y cyfiawnheir y pechadur yn rhad gan Dduw yr hwn, yn lle cyfrif i ni ein pechodau, a gyfrif cyfiawnder Crist o’n plaid. Daw iachawdwriaeth felly drwy ras ac nid o haeddiant dynol.

  8. Credwn y bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dychwelyd yn bersonol, yn weledig ac yn ogoneddus i’r ddaear hon, i dderbyn Ei saint iddo’i Hun ac i’w weld gan bob dyn. Fel y Barnwr cyfiawn, bydd Ef yn rhannu’r holl ddynion yn ddau, a dim ond dau, ddosbarth – y cadwedig a’r colledig. Achubir y rhai sydd â ffydd yng Nghrist yn dragywydd, a chânt fynedfa i lawenydd eu Harglwydd, gan rannu gydag Ef Ei etifeddiaeth yn y Nefoedd. Condemnir y colledig ganddo Ef i Uffern, lle y cosbir hwy’n dragywydd am eu pechod dan farnedigaeth gyfiawn Duw.